Elin Jones AS
 Y Llywydd

     

    


1 Mehefin 2020

Annwyl Lywydd,

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Fel y gwyddoch, mae’r Senedd wedi gofyn i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd drafod yr argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Rwy'n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â sut yr ydym yn bwriadu cwblhau ein gwaith yn sgil pandemig COVID-19.

Credwn, yn ystod y cyfnod rhyfeddol hwn, y dylai egni, amser ac adnoddau'r Senedd a'i phwyllgorau, Llywodraeth Cymru, a chyrff cyhoeddus a sefydliadau ledled Cymru ganolbwyntio'n bennaf ar ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.

Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Senedd, ei haelodau a’i phwyllgorau, gyda chymorth Comisiwn y Senedd, wedi gallu addasu’n gyflym, ac yn parhau i ymgymryd â’n gwaith craffu, deddfwriaethol a chynrychioliadol pwysig ar ran pobl a chymunedau Cymru. Serch hynny, rydym yn cydnabod bod gweithredu o bell yn gosod rhai cyfyngiadau ar yr amser sydd ar gael i bwyllgorau'r Senedd ymgymryd â'u busnes, yn enwedig ar y gallu i ddarlledu cyfarfodydd yn gyhoeddus. Bu'n rhaid i’r holl bwyllgorau ailystyried eu blaenoriaethau, a chanolbwyntio ar yr agweddau ar eu cylch gwaith y mae COVID-19 yn effeithio arnynt fwyaf. Yn ein barn ni, o fewn yr amser cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau'r Senedd, dylid rhoi blaenoriaeth i'r pwyllgorau sydd â rhan flaenllaw yn ymateb y Senedd i'r pandemig. Ni fyddwn, felly, yn ceisio cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol cyn toriad yr haf.

Wrth wraidd ein hymagwedd strategol tuag at ein cylch gwaith fu'r angen i roi gwybodaeth hygyrch a chywir i aelodau o'r cyhoedd, a gwrando ar eu safbwyntiau gwybodus. Fodd bynnag, bu'n rhaid i ni ailystyried i ba raddau y gellir cyflawni hyn yn y cyd-destun presennol. Fel y gwyddoch, mae methodoleg cynulliad dinasyddion yn hirsefydlog ac yn uchel ei pharch fel dull ar gyfer trafodaethau manwl a gwybodus ac fel ffordd o ddod i gonsensws ar faterion sensitif, cymhleth a dadleuol. Am y rheswm hwn, drwy gydol ein gwaith, rydym wedi rhoi blaenoriaeth sylweddol ar gynnal cynulliad dinasyddion i alluogi grŵp cynrychioliadol o bobl o bob rhan o Gymru i ddod ynghyd i ddysgu am faterion yn ymwneud â chapasiti’r Senedd, i drafod y materion hyn a dod i gonsensws yn eu cylch. Rydym yn parhau i fod yn argyhoeddedig o bwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd mewn modd cadarn ac ystyriol ynghylch maint y ddeddfwrfa a sut y caiff yr Aelodau eu hethol, ond yn anffodus rydym wedi dod i'r casgliad bod yr amgylchiadau presennol yn golygu nad yw'n bosibl i ni barhau â’r gwaith o drefnu cynulliad dinasyddion.

Er na allwn fwrw ymlaen â'n gwaith yn yr union ffordd yr oeddem wedi bwriadu, mae'r materion yn ein cylch gwaith yn parhau i fod o arwyddocâd cyfansoddiadol sylfaenol. Mae'r dystiolaeth yr ydym eisoes wedi'i chasglu wedi ein harwain i bryderu i ba raddau y bydd gan Senedd 60 Aelod y gallu sydd ei angen arni i gyflawni ei chyfrifoldebau i bobl Cymru rhwng nawr a 2026. Hoffwn eich sicrhau, felly, ein bod yn bwriadu cwblhau ein tasg a chyflwyno adroddiad i'r Senedd.

Er ein bod wedi gorfod addasu'r ffordd y byddwn yn mynd ati i wneud gweddill ein gwaith, rydym yn bwriadu ceisio rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ein trafodaethau a’r gwaith o baratoi ein hadroddiad terfynol. Byddwn hefyd yn parhau i adolygu'r posibilrwydd o glywed rhagor o dystiolaeth lafar ffurfiol ynglŷn â’r materion sydd â'r flaenoriaeth uchaf, pe bai'n briodol ac yn gymesur gwneud hynny ddechrau tymor yr hydref. Yn y modd hwn, gobeithiwn y bydd ein hadroddiad yn fodd defnyddiol o lywio trafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod y Senedd yn sefydliad â'r capasiti sydd ei angen arno i weithio gyda phobl a chymunedau Cymru ac ar eu rhan wrth i ni fynd ati i wella’r sefyllfa yn sgil effaith ddinistriol COVID-19.

Yn gywir,

Dawn Bowden AS
Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.